CROESO

Llys Ednowain

Llys Ednowain – Canolfan Treftadaeth a Hostel



Ffôn : 01766 770324
Ffacs : 01766 770714
e-bost : llysednowain@btconnect.com


www.llysednowain.co.uk

Mae llety Llys Ednowain yn darparu hwylusdod am bris rhesymol. Mae yma 20 o wlâu gyda dillad gwely glan a thoweli, mewn 4 ystafell gyda gwres canolog. Beth bynnag eich gweithgaredd mae`r llety`n lle cyfleus i aros.
Pris – £25 y noson.

Mae`r Llety yn cynnig maes parcio, sied feiciau diogel, cegin, cyfrifiaduron,teledu dvd/fideo, peiriant golchi a sychwr dillad. O fewn tafliad carreg i’r llety mae Ty Tafarn, siop bapur, garej a groser gydag ‘off-licence’ a pheiriant arian.

4 Milltir i`r De o Lys Ednowain mae un o ganolfannau beicio mynydd enwocaf Ynys Prydain, Canolfan Beicio Coed y Brenin.

Yn ogystal a mynyddoedd y Rhinogydd, mae llawer o oel rhufeinig a coedwigaeth Coed y Brenin, mae`r ardal gyda llawer o lwybrau natur lle gellwch gael cip ar anifeiliaid, adar a blodau gwyllt.

 Hefyd cewch hanes unigryw pentref Trawsfynydd yn arddangosfa ryngweithiol, aml-gyfrwng y ’Sant â’r Bugail’ yn Llys Ednowain.

Dysgwch am olion Oes Efydd ac Oes Haearn y Crawcwellt, a dewch i weld dyblygiad o “Gwpan Trawsfynydd”.

Mae arddangosfa y Sant â’r Bugail wedi ei selio ar fywydau dau o enwogion y pentref, sef y prifardd HEDD WYN a`r St. JOHN ROBERTS.

HEDD WYN 


Ganwyd Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, ym 1887 ym Mhenlan, Trawsfynydd, cyn i`r teulu symud i hen gartref ei dad yn yr Ysgwrn. Dechreodd farddoni yn gynnar iawn ac ennilliodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod y Bala ym 1907. Cafodd ei alw i`r fyddin ym 1917 ac fe aeth i Fflandyrs. Ym mrwydyr Passchendale bu iddo, ymysg llawer eraill, gael ei ladd. Yn yr un flwyddyn cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Ym mhafiliwn yr Eisteddfod ay 6 Medi cyhoeddodd y beirniad bob y bardd buddugol o dan y ffugenw “Fluer-de-lis” yn llawn haeddiannol i`w gadeirio. Hysbyswyd y gynulleidfa mai`r ennillydd oedd Private E.H. Evans – Hedd Wyn – a`i fod wedi ei ladd ar faes y gad fis ynghynt a gyda thristwch fe orchuddwyd y gadair gyda chwrlid du. Yn 1991 gwnaed ffilm amdano a enwebwyd am “Oscar”. Dewch i weld Plac Ffilm Hedd Wyn, mae’r plac yn rhan o Lwybr Ffilm a Theledu Gogledd Cymru sydd yn cael ei drefnu gan Comisiwn Sgrin Cymru. Dadorchuddiwyd y plac ar 15 Ebrill 2005 gan Huw Garmon yr actor a chwaraeodd y brif ran yn y ffilm.

St. JOHN ROBERTS
Un o`r 40 Merthyr Cymru a Lloegr, a ganoneiddwyd ym 1970. Ganwyd ef yn Rhiwgoch, Trawsfynydd ym 1577 ac mae`n debyg iddo gael ei fedyddio yn Eglwys St. Madryn yn y pentref. Sonnir i`w deulu fyw yn Gelli Goch neu Tyddyn Gwladys. Magwyd yn Brotestant, ac ymaelododd yng Ngholeg St. Iaon, Rhydychen, 26 Chwefror 1595/6. Aeth i deithio`r cyfandir a thra ym Mharis trodd yn Gatholig. 
Ym 1599 aeth i Abaty St. Benedict, Valladolid; yna aeth yn ei flaen i wneud ei nofyddiaeth i Santiago de Compostela, tua ddiwedd 1600. Ymunodd a`r Benedictiaid a mabwysiadodd yr enw Fray Juan de Mervinia, y Brawd John o Feirionnydd. Cafodd ei ordeinio ac aeth allan ar Genhadaeth Saesneg ar y 26 Rhagfyr 1602- ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd i Loegr ar ol i Harri`r VIII gau y mynachlogydd. Bu 4 neu 5 gwaith yng ngafael yr awdurdodau, ond ar bob achlysur wedi tymor byr o garchar, dedfrydwyd ef i alltudiaeth. Yr un cyfnod gwnaeth enw mawr iddo`i hun yn Llundain trwy helpu`r cleifion oedd yn dioddef o`r Pla. Dychwelodd drachefn, arestiwyd ef achafwyd ef yn euog o uchel frad, wedyn dienyddwyd ef trwy ei grogi, diberfeddu a`i chwarteru ar y 10 Rhagfyr 1610 yn Nhyburn, Llundain.

Gwynfendigwyd St. John ar Ragfyr 15, 1929, a Canoneiddwyd ef ar 25 Hydref, 1970.

ORIEL MOI PLAS
Gwnewch eich hun yn gartrefol tra yn gwylio hen luniau o’r fro a’i chymeriadau ar y sgrin fawr, neu gwrandewch ar atgofion rhai o’r ardal yn adrodd ’Stori’r Goedwig’. Mae’r adnoddau yn cynnwys cyfrifiadur, sgrin a thaflunydd sydd yn gwneud yr awditorium aml bwrpas yn lle delfrydol i gynnal darlithoedd, seminarau neu ddosbarthiadau.

MAE`R HANES HYN, A MWY, YN EICH AROS YNG NGHANOLFAN TREFTADAETH A HOSTEL LLYS EDNOWAIN.


No Comments Yet

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gallwch ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

To use reCAPTCHA you must get an API key from https://www.google.com/recaptcha/admin/create